Hafan/ Home

Mae Cyngor Cymuned Gorslas yn hyrwyddo datblygiad cymunedol a gweithgareddau cymdeithasol, gan gynnwys cefnogi nifer o grwpiau chwaraeon, diwylliannol a chymunedol sy’n chwarae rhan amlwg ym mywyd ein cymuned. Mae’r Cyngor yn gweithio i ymateb i anghenion lleol a gwella safon byw yn ein hardal.

Gorslas Community Council promotes community development and social activities, including supporting a number of sporting, cultural and community groups which play a prominent part in the life of our community. The Council works to respond to local needs in order to improve the standard of living in our area.

Mae y Cyngor Cymuned yn chwilio am unigolion i gynrychioli ardal a thrigolion lleol ar y Cyngor Cymuned.  Cysyllter a’r Clerc am fanylion.

The Council is looking for individuals to represent the residents and local community on the Coummunity Council. Interested contact the Clerk.

Newyddion /News 

Hygyrchedd Gwefan

Mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn gweithio tuag at wella hygyrchedd y wefan hon i’w defnyddwyr. Rhowch wybod i’r Clerc os ydych yn cael trafferthion gyda’r safwe, neu’r ddogfennaeth sydd ar gael, gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a nodir. (Dyma ddehongliad Cyngor Cymuned Gorslas o ofynion y ddeddfwriaeth. Fe’ch cynghorir i gyrchu gwefan y Llywodraeth am fanylion llawn y gofynion.)

Website Accessibility

The Council is currently working towards improving this website’s accessibility. This work is ongoing. If you have any issues or difficulties with the site or the documentation provided please contact the Clerk using the contact details provided. (This is the interpretation of Gorslas Community Council of the legislation. You are advised to access the Government’s own website for full details of the requirements.)

Gwybodaeth Etholaethol 

Gellir gweld proffil o ardal etholiadol Gorslas ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.  Mae gan y pentrefi o fewn ffiniau Cyngor Cymuned Gorslas eu nodweddion arbennig eu hunain yn ogystal â pherthyn hefyd i Gwm Gwendraeth gyda’i gysylltiadau glofäol yn ogystal â meddu hefyd ar nodweddion gwledig Sir Gâr. Lleolir y pentrefi ar hyd rhan uchaf Y Gwendraeth Fawr.

Electoral Information

You can view the profile of the Gorslas Electoral Division on the Carmarthenshire County Council website.  The villages within the boundaries of Gorslas Community Council each have their own particular character at the same time as being part of the Gwendraeth Valley with its coal mining connections and distinctive Carmarthenshire countryside.  Drefach, Cefneithin and Gorslas are strung along the Upper Gwendraeth Fawr.


Tra bod Cyngor Cymuned Gorslas wedi cymryd gofal wrth gasglu cynnwys ar gyfer y wefan hon, ni fydd yn atebol am unrhyw golled, niwed nac anghyfleustra a achosir yn sgil anghywirdeb neu wallau ar y tudalennau hyn. Os ydych yn ymwybodol bod yma wallau yn yr wybodaeth a gyflwynir gofynnwn i chi ein hysbysu drwy gyfrwng y ddolen hon.  Nid yw Cyngor Cymuned Gorslas yn cefnogi nac yn argymell unrhyw wefannau allanol sy’n gysylltiedig nac yn gyfrifol am eu cynnwys.

While Gorslas Community Council has taken every care in the compilation of the information contained on its website, it will not be held responsible for any loss, damage or inconvenience caused as a result of inaccuracy or error within these pages.  If you are aware that there are any errors in the information provided, please notify us via the Contact Page Here.  Gorslas Community Council does not endorse any external linked sites and is not responsible for their content.

Mae’r Ddeddf Gwarchod Data Gyffredinol yn llywio’r modd y mae’r Cyngor Cymuned  yn casglu a thrafod data bersonol. Cyn cychwyn cyfathrebu â, mynychu cyfarfod, darparu neu rannu gwybodaeth gyda’r Cyngor dylech ddilyn y ddolen ganlynol i ddarllen Rhybudd Preifatrwydd y Cyngor.

The General Data Protection Regulation Act governs the way the Community Council collects and processes personal data. Prior to entering into correspondence with, attending a meeting, providing or sharing information with the Council you should click on the following link to read the Council’s Privacy Notice.