Llefydd i ymweld â nhw/ Places to Visit

Parc GORSLAS Park

Mae parciau a mannau chwarae i blant gan y Cyngor Cymuned yn Drefach, Cefneithin a Gorslas

The Community Council has parks and children’s play areas in Drefach, Cefneithin and Gorslas.

Playing apparatus in Drefach park
Parc DREFACH Park

Llyn Llech Owain

Yng nghanol y parc godidog hwn mae llyn dramatig sydd wedi ei amgylchynu gan fawnog, ac mae chwedl Arthraidd hyfryd yn gysylltedig â’r lle. Yn ôl y chwedl, cafodd Owain ap Urien (neu Owain Rheged) y dasg o ofalu am ffynnon ar fynydd o’r enw Mynydd Mawr. Bob diwrnod wedi iddo dynnu digon o ddŵr o’r ffynnon iddo ef a’i geffyl, roedd Owain yn ofalus iawn i roi’r clawr carreg (y llech) yn ôl dros geg y ffynnon. Fodd bynnag, un diwrnod anghofiodd wneud hynny a gorlifodd y dŵr yn llif i lawr llethr y mynydd gan ffurfio’r llyn. A dyna ni – Llyn Llech Owain.

At the heart of this spectacular park is its dramatic lake which is surrounded by peat bog and there’s a lovely myth associated with Llyn Llech Owain. Arthurian legend has it that Owain ab Urien (son of Urien), was entrusted to look after a well on the mountain named Mynydd Mawr. Each day, after extracting enough water for himself and his horse, Owain was always careful to replace the stone but on one occasion he forgot and a torrent of water poured down the side of the mountain. The resultant lake was hence named Llyn Llech Owain – the lake of Owain’s slab.

Heddiw mae llwybrau wedi eu gosod yn arbennig yn caniatau mynediad diogel dros y fawnog ac o gwmpas y llyn. Mae arwyneb da ar y llwybrau ac yn addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Mae llwybr coediog yn cynnig lle i fynd am dro hirach neu daith ar feic o gwmpas y parc gwledig, ynghyd â thrac beicio mynydd i’r seiclwyr mwy mentrus.

Still waters of Llyn Llech Owain
Llyn Llech Owain

Today, specially constructed paths allow for safe access over the bog and around the lake. The paths are well-surfaced and accessible to wheelchair-users. A forest track provides a longer walk or cycle ride around the country park and there’s a rough mountain bike trail for the more adventurous cyclist.

 

Roedd llawer o’r parc yn cynnwys coed pinwydd a blannwyd gan Y Comisiwn Coedwigaeth yn y 1960au. Mae yna hefyd rosdir sych a choedwig o goed llydanddail.

Much of the park consisted of coniferous woodland, planted by the Forestry Commission during the 1960s and there are also areas of dry heath and broad-leaved woodland.

How to get to Llyn Llech Owain

Signposted on the A476 from Crosshands to Llandeilo. Regular bus services to Gorslas.

Llyn Llech Owain Country Park
Carmarthenshire, SA14 7NF.
Tel : 01269 832229.