Chwaraeon:
Mae nifer o enwogion adnabyddus o fyd y campau wedi eu magu yn yr ardal. Mae gan Gefneithin draddodiad rygbi cryf, a symudodd Carwyn James yno pan oedd yn fachgen ifanc. Daeth yn chwaraewr ac hyfforddwr rygbi o safon fyd-eang. Cafodd ei urddo gan Orsedd y Beirdd yn 1972, ond gwrthododd dderbyn yr MBE yn dilyn taith y Llewod i Seland Newydd yn 1971 yn sgȋl ei ddaliadau cenedlaetholgar cryf.
Mae Barry John yn un arall o gewri rygbi Cefneithin a enillodd ei gap cyntaf i Gymru yn 1966. Yn dilyn taith lwyddiannus Y Llewod yn 1971, fe’i coronwyd â’r teitl ‘Y Brenin’ er iddo ymddeol o’r gêm yn rhy ifanc o lawer yn ôl llawer o selogion y gêm ag yntau ond yn 27 mlwydd oed.
Cafodd Carwyn James a Barry John eu haddysg yn Ysgol Ramadeg y Gwendraeth, felly hefyd cyn-faswr Cymru a’r Llewod a Chadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Gareth Davies. Maswr byd-enwog arall a chwaraeodd rygbi’r undeb a rygbi’r gynghrair oedd Jonathan Davies, sy’n fwy adnabyddus fel sylwebydd erbyn hyn ac yn eistedd ochr-yn-ochr â chyn-ddisgybl arall yn y blwch sylwebu, sef Gareth (Charlo) Charles. Gellir cysylltu enwau y mewnwr rhyngwladol Dwayne Peel a’r dyfarnwr Nigel Owens gydag Ysgol Maes yr Yrfa.
Un arall o enwogion Cefneithin o fyd y campau oedd y diweddar Robert Dickie, y pencampwr paffio pwysau bantam a phwysau plu. Mae gan y cymunedau draddodiad cryf mewn campau timau yn ogystal, gyda thimau rygbi (Cefneithin), criced a phêl-droed (Drefach) yn cystadlu’n rheolaidd, a hynny ar draws ystod o oedrannau.
Sport:
Numerous well-known people have been educated at Ysgol Y Gwendraeth since its inauguration including two of the school’s and district’s sporting heroes, Carwyn James and Barry John. Cefneithin has a strong rugby tradition and Carwyn James moved there as a young boy. He became a world class rugby player and was admitted to the Gorsaf of Bards in 1972 but refused the MBE following the Lions tour of New Zealand in 1971 due to his staunch nationalist views.
Barry John is another of Cefneithin’s rugby giants and he won his first Welsh cap in 1966. Following the successful Lions tour in 1971 he was crowned ‘Y Brenin’ (the King of rugby).
Carwyn James a Barry John received their education at Gwendraeth Grammar School, as was Wales and Lions outside-half and past president of the Welsh Rugby Union, Gareth Davies. Another world-famous fly-half who also switched to rugby league was Jonathan (Jiffy) Davies, who’s probably more famous as a pundit nowdays, sitting alongside another ex-pupil in the commentary box, Gareth (Charlo) Charles. The names of international scrum-half Dwayne Peel and international referee Nigel Owens can also be linked to Ysgol Maes yr Yrfa.
Another one of Cefneithin’s sporting greats was the late Robert Dickie, a bantam and flyweight boxing champion. These communities have strong traditions in team sports as well, with local rugby (Cefneithin) and Cricket and Football clubs (Drefach) playing regularly across a range of age groups.
In addition to rugby, the communities have a strong tradition for cricket and football with local teams participating in these sports.