Capeli/ Chapels

Capeli

Mae’r gymuned yn frith o gapeli o enwadau anghydffurfiol amrywiol a sefydlwyd wrth i’r boblogaeth gynyddu yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd yr anghydffurfwyr cynnar yn aml yn cynnal cyfarfodydd yn yr awyr agored, a’r gred yn lleol yw bod Annibynwyr Drefach yn arfer cynnal cyfarfodydd o dan yr hen dderwen yn agos at y pentref – cyn i gapel Seion gael ei adeiladu. Yn ystod y ddeunawfed ganrif, byddai’r Bedyddwyr yn ymgasglu ger Llyn Llech Owain i fedyddio pechaduriaid yr ardal yn y dŵr.

Diwallwyd anghenion y gymuned Anglicanaidd pan godwyd adeilad newydd eglwys Sant Lleian ym mhentref Gorslas, gan sicrhau bod enw’r sant Celtaidd hynafol yn parhau ar eglwys a chapel yn yr ardal. Diwallwyd anghenion ysbrydol y gymuned cyn-ddiwydiannol yn ardal Gorslas yng Nghapel Erbach a Chapel Llanlluan a oedd yn gwasanaethu fel eglwysi bach i eglwys plwyf Llanarthne. Daeth Llanlluan yn un o’r capeli pwysicaf yn hanes cynnar y diwygiad Methodistaidd, a chafodd ei ddisodli yn ddiweddarach gan gapel newydd ar safle cyfredol Capel Llanlluan. Awgrymir bod yr enw yn lygriad o Llan Lleian (church of the nun). Damcaniaeth arall yw bod yr enw yn gysylltiuedig â Lluan a gredir iddi fod yn wyres i Brychan Brycheiniog, brenin chwedlonol o’r 5ed Ganrif.

Chapels

Chapels and churches: the community is dotted with the chapels of many nonconformist denominations that established a presence in the area as the population grew during the nineteenth century.  Early nonconformists often held open air meetings and local tradition has it that Methodists in the Drefach area held meetings under an old oak tree near the village before Seion chapel was built nearby.  During the eighteenth century. local Baptists would often congregate at Llyn Llech Owain to baptise new converts in the waters of the lake.

The needs of the Anglican community were met by the building of a new St Lleian’s church in Gorslas village, ensuring that the name of the ancient Celtic saint lived on both in church and chapel in the area.  The spiritual needs of the pre-industrial community of the Gorslas area had been served by Capel Erbach and Capel Llanlluan as chapels-of-ease to Llanarthney parish church.  Llanlluan became one of the most important churches in the early history of the Methodist revival and was later replaced by a new chapel at the site of the present Capel Llanlluan.